Clwb Rygbi Llangefni

#TeuluRygbi
#CrysIBawb

Newyddion

10 Tachwedd 2019

Beth bynnag di’r sgôr mae’r merched pob tro yn mwynhau! Croeso i chwaraewyr newydd, profiad ddim yn angenrheidiol!🐗🏉🤩

5 Tachwedd 2019

Lluniau anhygoel o'r tân gwyllt gan Gareth Mon Photography unwaith eto!😲🐗👏💥🎆🎇

4 Tachwedd 2019

🚨8/11/2019🚨

Llandudno v Dan 14🐗🏉
⏱19:00

4 Tachwedd 2019

Dewch yn llu! Fydd Batala Bangor yn darparu adloniant cyn y tân gwyllt am 6:30!🐗🥁🍔🌭💥🎇🎆

3 Tachwedd 2019

Tîm Dan 8 yn croesawu Caernarfon a Llandudno bore ma, chwara 10 gêm i gyd, llwyth o hwyl rygbi i bawb!🤩🐗🏉

3 Tachwedd 2019

Dan 10 gemau da yn erbyn Gaernarfon bore ‘ma. Da iawn pawb 😃🐗🏉

3 Tachwedd 2019

Canlyniad:
Caernarfon 5-57 Dan 14👏🏉🐗

Llongyfarchiadau i Maddox Owen am sgorio ei gais gynta i’r tîm!👌🐗🏉

1 Tachwedd 2019

Fydd rhaid i ni dechra feddwl am werthu dillad babi clwb!😂🐗🏉🤩

31 Hydref 2019

Plant wedi mwynhau camp rygbi Yr Urdd yn y clwb heddiw!👏🐗🏉🤩

31 Hydref 2019

Yr ydym eisiau cynyddu niferoedd chwaraewyr yng ngharfannau y timoedd hŷn. Newydd i'r ardal? Newydd i'r gêm? Cyn chwaraewr isio ail gychwyn neu ail ymuno? Mae croeso mawr i chi yn ein clwb!

Mae ganddom adran iau efo bron i 250 aelod a tîm ieuenctid efo niferoedd da, mae pob dim yn ei le am llwyddiant yma!
🐗🐗🏉🏉👍

31 Hydref 2019

Pwy fysa efo diddordeb prynu crys clasurol Clwb Rygbi Llangefni fel gwisgwyd gan George North? Yr ydym yn cysitro rhoi archeb i fewn amdanynt gyda opsiwn o rhif o'ch dewis yn y pris!🐗👌😎

28 Hydref 2019

Llongyfarchiadau a pob lwc i hogia Cefni sydd yn y garfan!👏🐗🏉

27 Hydref 2019

Tîm Dan 11 wedi cael buddugoliaeth dda yn erbyn Rhyl heddiw!👏🐗🏉

27 Hydref 2019

Tîm Dan 7 wedi mwynhau yn erbyn Rhyl heddiw!👍🏉🐗🤩

27 Hydref 2019

Llongyfarchiadau i Morgan Oliver, Hari Jones, Mylo Jones a Tommi Owen ar sgorio ceisiau gynta nhw i’r clwb heddiw! Da ni yn siwr fydd llawer mwy i ddod!👏🐗🐗🐗🐗🏉🤩

27 Hydref 2019

Dan 8 yn erbyn Rhyl heddiw, gêm dda gyda tagio gwych!👏🐗🏉🤩

24 Hydref 2019

Croeso i chwaraewyr newydd ymuno'r tîm Dan 14! Tîm cystadleuol, hyfforddwyr profiadol Lefel 2 URC a llond lle o hwyl i gael!🏉🐗🤩😎

23 Hydref 2019

🐗Pwllheli v Ieuenctid
⏱Nos Wener 19:30

22 Hydref 2019

Pentwr o adloniant ar eich cyfer Dydd Sul yma! Yn ogystal fydd y merched yn erbyn Gaernarfon am 2:30!🐗🤩🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏉

21 Hydref 2019

Ymddangos da i gyflwyniad Cyfergyd a Pasio Ymlaen gan Tim Hoare URC. Enwedig gan chwarewyr ieunctid.

Diolch am drefnu👍🐗🏉

20 Hydref 2019

Llongyfarchiadau Jac ar dy gais gynta i’r clwb!👏🐗🏉

20 Hydref 2019

Y ddau dîm Dan 7 yng Ngwyl Wyddgrug heddiw!🐗🏉🤩

20 Hydref 2019

Ein carfan D10 wedi mwynhau chwarae yn erbyn Rhyl, Cobra, Wrecsam, Yr Wyddrgug, Caldy yng ngŵyl rygbi Mold heddiw. Ymdrech dda iawn gan bob un, da iawn chi!👌🐗🏉🤩

20 Hydref 2019

Tîm Dan 8 yn mwynhau yn Yr Wyddgrug!🤩🐗🏉👍