22 Hydref 2020
Cadwch yn saff a wela ni chi ar ôl y toriad 🐗🏉👍
22 Hydref 2020
Cadwch yn saff a wela ni chi ar ôl y toriad 🐗🏉👍
2 Hydref 2020
Mae gan y clwb côd QR ar gyfer cofrestru efo’r app Covid-19 NHS yn awr🐗👍🦠
2 Hydref 2020
Mae ganddo ni lefydd i chwaraewyr newydd ymuno carfan ein tîm Dan 15. Profiad ddim yn angenrheidiol - mae pawb yn cael cyfle i chwarae a cael hyfforddiant gan hyfforddwyr Lefel 2 URC profiadol. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth🐗🏉🤩😎
2 Hydref 2020
Dymuna'r Clwb ddiolch o galon am wasananeth Chris Redmayne ac Elfed Williams. Mae'r ddau wedi penderfynu ymddeol o'i dyletswyddau - Chris fel Cadeirydd ein Is-bwyllgor Adnoddau ac Elfed fel Rheolwr y Tim Ieuenctid. Roedd Chris yn gyfrifol am drefnu y noswethiau tan gwyllt llwyddiannus ymysg llu o weithgareddau eraill dros nifer o flynyddoedd.
Diolch yn fawr i'r ddau🐗🐗🏉👏
16 Medi 2020
Adroddiadau gemau 5ed Ionawr 1991!🐗🐗🏉
14 Awst 2020
Dyma gynllun o'r system un-ffordd ar gyfer sessiynna ymarfer. Mae dau safle dihenitio dwylo, un wrth ddod i fewn a llall ar y ffordd allan. Gofynnwn hefyd i bawb droi fyny ar amser fel ein bod yn cadw trefn - cofiwch parcio ym maes parcio'r cyngor, DIM y clwb. Os yn fuan arhoswch yn y car nes mae'n amser. Mae'n hynod o bwysig fod pawb yn dilyn y drefn er mwyn diogelwch pawb. Diolch am eich cydweithrediad a fedra ni ddim disgwyl gweld pawb yn ôl ar Gae Smyrna!🐗🏉😍😎🥳
27 Gorffennaf 2020
Penblwydd hapus i Rhys a Dylan heddiw! Mae Rhys yn chwaraewr tîm 1af presennol sydd wedi dod trwy ein Adran Iau a Dylan yn gyn chwaraewr, sydd hefyd wedi dod trwy'r Adran Iau sydd rwan yn rhannu ei brofiad gyda'r tîm Dan 7!🐗🐗🏉🥳🍰
18 Gorffennaf 2020
Yn dilyn cyfarwyddiadau gan URC yr ydym yn gallu cychwyn ymarfer mewn grwpiau bach o mis Awst ymlaen gan dilyn canllawiau yr undeb ynlgyn a COVID-19 er mwyn diolgeu iechyd ein aelodau. Yn ogystal mae cofrestru a trosglwyddo chwaraewyr yn ail agor ar y 1af o Awst a fydd rhaid i pawb fod wedi cofrestru ac eistedd cwrs arlein syml ymwybyddiaeth COVID-19 mwyn cael cymeryd rhan. Mae croeso i chwaraewyr newydd ymuno ein teulu rygbi felly cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth.
Yr ydym yn edrych ymlaen i groesawu pawb i Gae Smyrna!🐗🐗🐗🏉🤩
7 Gorffennaf 2020
Cyfarfod Blynyddol Clwb Rygbi Llangefni Cyf. 2019-2020
Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Clwb Rygbi Llangefni Cyf. 27 Gorffennaf 2020 am 19.00 drwy Zoom.
Oherwydd y crisis iechyd cyhoeddus cyfarfod busnes yn unig fydd hwn.
Os am fynychu’r cyfarfod cofrestrwch drwy anfon e-bost at john_monfa@hotmail.com ac yn agosach at y dyddiad uchod byddwch yn derbyn cyfrinair i gymryd rhan.
Yn gywir
John R Jones - Ysgrifennydd
5 Mehefin 2020
Pleser mawr i Dion o’n tîm 1af rhoi tabled Amazon Fire i Cara Jowitt ar gyfer ward dementia Cemlyn yn Ysbyty Cefni ar ran Clwb Rygbi Cymry Caerdydd. Llongyfarchiadau ar eich sialens i hel y pres drwy rhedeg/cerdded o gwmpas Cymru a diolch yn fawr am y rhodd!🏉🐗👏👏👏
4 Mehefin 2020
Yn ystod Wythos Gwirfoddoli, a drwy gydol y flwyddyn, mae Clwb Rygbi Llangefni yn dathlu a cydnabod cyfaraniad amhrisiadwy yr holl wirfoddolwyr sy'n gweithio mor galed i gynnal a datblygu ein Clwb. Hebddynt ni fydd yna gyfle i gymaint o bobl ifanc fwynhau gem orau'r byd.🐗🤩🏉👏
Diolch
4 Mehefin 2020
Canllawiau diweddara gan URC🐗🏉👍
3 Mehefin 2020
Penblwydd hapus i'n taclwr caled a rhedwr cryf, blaenasgellwr ochr dywyll y tîm Dan 14, Gethin! Gobeithio gei di ddiwrnod gwych!🐗🏉🤩🎂🍰🎉
28 Mai 2020
Mae Clwb Rygbi Llangefni yn cyhoeddi gyda thristwch mawr bod ein cyn lywydd, o 1989 to 1997, ac aelod am oes Arthur Furlong wedi marw. Roedd Arthur yn gymeriad mawr a phoblogaidd yn y clwb ac yn lywydd ar gyfnod allweddol yn hanes ein datblygiad ac yn cyfranu I weithgareddau’r clwb gyda hiwmor a doethineb . Yr oedd yn gyfaill annwyl i'r chwaraewyr gyda sgwrs ffraeth yn eu hysbryboli ar y cae ac wrth y bar. Ein cydymdeimlad dwysaf i'r teulu i gyd, oedd hefyd yn rhan anatod o'r clwb.🐗❤️
27 Chwefror 2020
Diolch yn fawr iawn i Tim Hoare am rhedeg cwrs hyfforddi rygbi tag llwyddiannus iawn yn y clwb Dydd Sul. Mwy o hyffworddwyr cymwysiedig i'n adran iau llewyrchus!🐗🏉😎👏
25 Chwefror 2020
Mae’r baedd gwyllt ym Mhatagonia!🐗👌🏴🇦🇷
2 Chwefror 2020
RGC 29-12 Gweilch Dwyrain
Rob Muirhead o'r tîm Dan 16 yn cynrhychioli'r clwb🐗🏉👏
2 Chwefror 2020
Hogia Cefni yn chwara i RGC Gorllewin ym Mharc yr Arfau nos Wener🐗🐗🐗🐗🐗🐗🤩👌
1 Chwefror 2020
Pob hwyl i ti ym Mhatagonia, Ynyr!🐗🏉🎯🤣
31 Ionawr 2020
Diolch i Gaz Robertson am y llunia gwych o hogia Cefni yn chwara i RGC Gorllewin Dan 15 ym Mharc yr Arfau heno!👏🐗🏉📷
30 Ionawr 2020
Chwe gwlad yn cychwyn penwythnos yma.. dewch lawr i Ganolfan Hamdden Plas Arthur bob bore Sadwrn am wersi rygbi. Agored i blant 3, 4 a 5 oed! 10 - 10:45yb. Cyfle gwych i ddysgu sgiliau pasio, rhedeg efo'r bel, cicio! Croeso i chi droi fyny ar unrhyw bore! 🐗🏉🏴
28 Ionawr 2020
Gemau yn fyw yn y clwb, dewch lawr i gefnogi!🏉🐗👏🏴🍻
28 Ionawr 2020
Fedrwch chi ddarganfod hyfforddwr Tîm 1af a chwedlonwr clwb, Rhodri Gray yn y llun?🧐🐗🏉📷
28 Ionawr 2020
Diolch yn fawr iawn i Williams & Goodwin The Property People Ltd, All Wales Auction a Cymdeithas Adeiladu Principality am cefnogi rygbi ieuenctid trwy noddi crysa chwara newydd y Tîm Ieuenctid. Diolch yn fawr iawn hefyd i Morgan Owen am tynnu lluniau👏🐗🏉