Clwb Rygbi Llangefni

#TeuluRygbi
#CrysIBawb

Newyddion

14 Mawrth 2025

Byddwn yn croesawu timau Dan 14 & Dan 16 Ormskirk penwythnos yma felly dewch a'ch llais i gefnogi Cymru fory! 🐗🏉🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁥󠁮󠁧󠁿🇮🇹🇮🇪🇫🇷🏴󠁧󠁢󠁳󠁣󠁴󠁿

7 Mawrth 2025

Dewch i gefnogi eich gwlad yn eich clwb rygbi lleol! Clwb yn agored 13:45 8/3/2025. 🐗🏉🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿󠁧󠁢🏴󠁧󠁢󠁳󠁣󠁴󠁿🇮🇪🇫🇷🍻🍻🍻

20 Chwefror 2025

Dewch i gefnogi eich gwlad yn eich clwb rygbi lleol! Clwb yn agored 13:30 22/2/2025. 🐗🏉🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿󠁧󠁢🇮🇪🏴󠁧󠁢󠁥󠁮󠁧󠁿🏴󠁧󠁢󠁳󠁣󠁴󠁿🍻🍻🍻

3 Chwefror 2025

Canlyniadau Cwpan Iau RGC:

Dan 14 24-14 Nant Conwy 🐗🏉🏆👍
Dan 12 45-5 Bae Colwyn 🐗🏉🏆👍

7 Tachwedd 2024

Toweli Oddballs Cefni mewn stoc ar lein yn awr! 🐗👌

9 Medi 2024

Diolch yn fawr iawn i Jasmine Joyce am ymweld a'n hadran iau ddoe! 🐗🏉🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🇬🇧🤩

7 Medi 2024

Diolch yn fawr iawn i noddwyr crysa chwara newydd ein timau dynion - Castell Howell, Jordan Scott, APS Engineering and D13 Creative! 🐗🏉🙌

22 Gorffennaf 2024

Cyfle Busnes yng Nghlwb Rygbi Llangefni 🐗🍽🍻

Mae gan ein clwb llewyrchus gyfle busnes i'r person iawn i redeg y gegin, y gwasanaeth arlwyo a'r bar. Mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu busnes gyda photensial i ehangu.

I ddysgu mwy neu am sgwrs anffurfiol cysylltwch:

Chris 07715 704864 / Simon 07774 905567

30 Mai 2024

Noson wobrwyo gwirfoddolwyr cymuned URC nos fory! 🐗🏉👏

29 Mai 2024

Cynhelir Cyfarfod Blynyddol Clwb Rygbi Llangefni nos Wener 5ed Gorffennaf 2024 am 6.30 yr hwyr yng Nghae Smyrna, Llangefni.

Ar ôl yr adran busnes fydd trafodaeth ynghylch estyniad y clwb. Fydd hwn yn prosiect mawr fydd angen cymorth drwy'r clwb gyfan felly yr ydym yn gobeithio newch ymdrech i fynychu.

24 Mai 2024

Balch iawn i gyhoeddi Alwyn Hughes fel prif hyfforddwr y Tîm Ieuenctid am y tymor 2024/2025. Pob lwc! 🐗🏉👏

20 Mai 2024

🚨 Cyfle noddi 🚨

Tîm Ieuenctid 🐗🏉

Angen noddwyr crysau chwarae - cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth 🤝

18 Mai 2024

D11s: Am ddiweddglo gwych i'n tymor! ⭐️

Ni allem fod wedi gofyn am well anfoniad i'n merched 🥰

Diolch i Clwb Rygbi Llandudno Rugby Club am ddiwrnod gwych o rygbi yn nhwrnament coffa ‘Welly’ 🏉💪🏼🙌

Enillwyr……🥇

16 Mai 2024

Dewch i ymuno â ni yng Nghae Smyrna ar gyfer Diwrnod Gwobrwyo’r Adran Iau!

Dewch â’r teulu i gyd a mwynhau pnawn o ddathlu gyda’ch teulu rygbi! 🐗🏉🏆🏅

16 Mai 2024

Gêm Coffa 1/6/2024 🐗🏉❤️💙💛

Dynion Cefni v Tîm Gwahoddiad Gogledd Cymru

4 Mai 2024

Llongyfarchiadau mawr i Lowri Williams a Catrin Stewart sydd wedi chwarae i dim Dan 20 Cymru yn erbyn Lloegr! 🤩🐗🐗🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁥󠁮󠁧󠁿

30 Ebrill 2024

Llongyfarchiadau mawr i’r garfan O dan 13 ar eu llwyddiant dros y penwythnos-Enillwyr Cwpan Clwb Rygbi Bethesda! Chwarae slic a gwaith tim rhagorol 🐗🏉🏆🤩

27 Ebrill 2024

Llongyfarchiadau anferthol i un o hoelion wyth y clwb - Gareth Parry - am gael ei gydnabod gan yr URC am ei waith caled yn datblygu rygbi merched ar Ynys Môn a Gogledd Cymru. Heb gwaith arloesol Gareth, mae hi’n saff i ddweud fuasai y hwb merched MônStars ddim yn bodoli. Rydan ni’n falch iawn ohonat ti GP ❤️🏉🐗

27 Ebrill 2024

Ennillwyr 7 pob ochr ieuenctid RGC gogledd Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol! Tîm gwyn colli yn ffeinal y bowlen 🐗🏉🏆💪

3 Ebrill 2024

Tudur yn sgorio tri chais i Cymru Dan 18 yn erbyn Portiwgal! 🐗🏉🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🇵🇹👏

https://www.wru.wales/2024/04/...

2 Ebrill 2024

Pob lwc i Begw a Leah heddiw yn erbyn Iwerddon! 🤞🏻🐗🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🇮🇪

23 Mawrth 2024

💥LLONGYFARCHIADAU MAWR IAWN I CEIRW NANT / MÔN STARS 💥

Pencampwyr Cwpan Road to Principality 2024 🏆

3 Mawrth 2024

Llongyfarchiadau, Tudur! Cap #1 🐗🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏉

28 Chwefror 2024

Llongyfarchiadau enfawr a phob lwc i'n mewnwr Tîm Ieuenctid, Tudur Jones ar cae ei ddewis i garfan Cymru Dan 18 i chwara Yr Alban penwythnos yma! 🐗🏉🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿👏

https://www.wru.wales/2024/02/...