Clwb Rygbi Llangefni

#TeuluRygbi
#CrysIBawb

Dafydd Thomas

31 Gorffennaf 2020

Annwyl Einir, Ann â’r teulu

Dychrynais glywed am farwolaeth eich tad – mae Clwb Rygbi Llangefni wedi colli un o’i hoelion wyth. ‘Roedd ei gyfraniad at ddatblygiad y Clwb yn anferth ac adlewyrchwyd hyn gan iddo ei benodi yn Lywydd am sawl mlynedd. Ond cyn ei benodiad ‘roedd hefyd yn aelod ac yn gefnogwr brwd.

Gwelwyd ef yn y Clwb yn cefnogi gȇm yn amal ac yng nghwnmi eich mam a chwithau Eilir, ac ‘roedd ganddo ddiddordeb yn y chwaraewyr â’r aelodau wrth drin a thrafod yn foneddigaidd yn y bar ar ôl gếm – yr oedd yn gartrefol iawn yn trafod byd cudd a chyfrwys y ‘prop’ gyda Bins neu Ifan, safle yr oedd yn gyfarwydd yn chwarae yn ei ddyddiau iau ‘rwyn credu.

Defnyddiodd ei ddoniau a’i sgiliau proffesiynol yn ddistaw ac i bwrpas yn ystod y cyfnod o ddatblygu’r cynlluniau i godi adeilad pwrpasol i’r Clwb ynghyd â’r cae chwarae drwy arwain tîm o weithwyr parod. Yr ydym hefyd yn falch o gydnabod eich gwaith chwithau Einir yn cadw golwg a’r lyfrau’r Clwb wrth dalu teyrnged i’ch tad.Mae enw Dafydd Thomas wedi anfarwoli ar fwrdd swyddogion Clwb Rygbi Llangefni sy’n dyst i’w weithgaredd â’r parch roedd gennym tuag ato fel aelod a chefnogwr.

Teimlaf yn ffodus iawn o fod wedi profi ei gwnmiaeth dros y blynyddoedd ac rwyf yn sicr y buasai yn falch o’r brwdfrydedd a’r gweithgaredd sydd wedi deillio o’i waith yn braeniaru’r tir yng Nghae Smyrna.Colled mawr i’r Clwb Rygbi ia and colled llawr fwy i chwi fel teulu. Ein cydymdeimlad dwysaf i chwi a gobeithio fod yna rhywfaint o gysur wrth gofio am y mwynhad a gafodd wrth ddilyn rygbi yn Llangefni.

Yn ddiffuant,
John R Jones, Ysgrifennydd Clwb Rygbi Llangefni.

Attachment1596279177618